Mae’r Aelod Cynulliad lleol Paul Davies wedi croesawu £3 miliwn y flwyddyn ychwanegol i gefnogi gwasanaethau awtistiaeth yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru, ond mae wedi rhybuddio nad yw’r cyllid yn mynd yn ddigon pell i ddiwallu anghenion pobl sy’n byw ag awtistiaeth yng Nghymru.
Meddai Mr Davies: “Croesewir unrhyw gyllid ychwanegol ar gyfer y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig, ond rydym eisoes yn gwybod bod diffyg arbenigwyr wedi’u hyfforddi’n addas a bod pwysau mawr ar y gwasanaethau awtistiaeth yng Nghymru ac felly dydy’r arian yma ddim yn mynd yn ddigon pell.”
Ychwanegodd: “Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi gwrthod ymrwymo i gefnogi gwasanaethau ar ôl 2021, a fydd yn gadael defnyddwyr gwasanaethau mewn tir neb. Dyna pam fy mod i wedi ymrwymo i gyflwyno deddfwriaeth awtistiaeth benodol yng Nghymru, a fyddai wedi rhoi rhywfaint o sefydlogrwydd i ddarpariaeth gwasanaethau awtistiaeth ar gyfer y dyfodol. Byddai’r ddeddfwriaeth wedi helpu miloedd o bobl sy’n byw gydag awtistiaeth i dderbyn y cymorth sydd ei angen arnyn nhw mewn ffordd glir ac amserol ac felly roedd hi’n rhwystredig iawn na wnaeth Llywodraeth Cymru ei chefnogi. Fodd bynnag, rwy’n dal i fod yn ymrwymedig i bledio o blaid yr achos a byddaf yn parhau i wneud popeth o fewn fy ngallu i weld deddfwriaeth awtistiaeth yn cael ei rhoi ar waith yng Nghymru."