Gyda Dydd Sadwrn Busnesau Bach y penwythnos hwn, a’r Nadolig yn prysur agosáu, mae’r Aelod Cynulliad lleol Paul Davies yn annog pobl Sir Benfro i gefnogi busnesau lleol eleni. Mae hyn yn dilyn newyddion gan Gonsortiwm Manwerthu Cymru mai Cymru sydd wedi profi’r cwymp mwyaf mewn manwerthu yn y DU, sydd, law yn llaw â’r gyfradd wacter o 13.4% yng Nghymru ar gyfer y chwarter, yn golygu bod mwy o siopau gwag yng Nghymru nag unrhyw wlad arall ym Mhrydain.
Meddai Mr Davies, “O ran busnesau bach, mae gan Sir Benfro rywbeth i bawb yn sicr - o fwyd a diod, i nwyddau ar gyfer y cartref a rhoddion ar gyfer yr holl deulu. Felly, gadewch i ni wneud y pethau bychain a chefnogi ein busnesau bach wrth i’r Nadolig agosáu a gwneud gwahaniaeth go iawn i’r economi leol. Rwy’n deall y gall siopa ar-lein fod yn gyfleus, ond bydd cefnogi siopau stryd fawr Sir Benfro yn helpu i gadw eu drysau yn agored i’r dyfodol. Mae cefnogi ein busnesau lleol hefyd yn helpu cyflogaeth leol ac yn sicrhau bod gan bobl gyfleoedd am swyddi yn yr ardal leol.”
Mae hanes Consortiwm Manwerthu Cymru i’w weld yma - https://www.business-live.co.uk/retail-consumer/wales-experiences-biggest-fall-uk-17235261