Mae cais Rhyddid Gwybodaeth gan y Ceidwadwyr Cymreig wedi datgelu bod nifer aelodau staff awdurdodau lleol yn Sir Benfro a oedd yn absennol o’r gwaith oherwydd straen y llynedd wedi cynyddu 36.20% o gymharu â’r ddwy flynedd ddiwethaf. Yn 2018/19, nifer yr aelodau staff a oedd yn absennol oherwydd straen oedd 384, o gymharu â 282 yn 2016/17.
Meddai Mr Davies, “Mae’r tueddiad hwn yn amlwg yn un sy’n peri cryn bryder ac rwy’n gobeithio y bydd Cyngor Sir Penfro’n myfyrio ar y ffigurau hyn ac yn canfod ffyrdd o gefnogi ei staff yn well. Mae’r cais Rhyddid Gwybodaeth yn dangos peth gwelliant mewn rhannau eraill o Gymru, fel Sir Fynwy ac Ynys Môn felly mae’n hanfodol bod Sir Benfro’n ystyried yn ddwys sut i fynd i’r afael â’r mater er mwyn i’r ffigurau beidio parhau i gynyddu yn y blynyddoedd sydd i ddod.”
Ychwanegodd, “Mae’n rhaid i Gyngor Sir Penfro sicrhau nad yw llesiant staff yn cael ei ddiystyru a’i fod yn rhoi rhaglenni cefnogi’r gweithlu ar waith er mwyn lleihau’r staff sy’n absennol oherwydd straen. Os bydd y tueddiad hwn yn parhau dros y blynyddoedd nesaf, gallai’r goblygiadau i ansawdd ein gwasanaethau cyhoeddus fod yn ddifrifol dros ben ac mae’n rhaid i’r Cyngor sicrhau nad yw hynny’n digwydd.”