Mae’r Aelod Cynulliad lleol Paul Davies wedi llongyfarch yr AS lleol Simon Hart ar ei rôl newydd fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Yn ddiweddar, cafodd Aelod Seneddol Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro ei benodi i’r rôl gan y Prif Weinidog, yn dilyn cyfnod blaenorol fel is-weinidog yn Swyddfa’r Cabinet.
Meddai Mr Davies: “Rwyf ar ben fy nigon fod fy nghydweithiwr a’m cyfaill Simon Hart AS wedi’i benodi i rôl Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Rwyf wedi cael y pleser o weithio gydag ef am flynyddoedd lawer ac rwy’n gwybod yn iawn am ei ymroddiad i wneud Sir Benfro a Chymru yn gyffredinol yn lle mwy ffyniannus.
Mae Simon wedi gweithio ar sawl mater lleol fel cau banciau gwledig a galw am well seilwaith trafnidiaeth ledled y Gorllewin. Mae ganddo brofiad o ymgyrchu ar faterion lleol a does dim dwywaith y bydd yn sicrhau bod llais Sir Benfro yn cael ei glywed yn uchel a chlir o gwmpas bwrdd y Cabinet.”