Yn ddiweddar, aeth Paul Davies AC i ymweld â ffatri yn Snowdrop Lane, Hwlffordd, sy’n derbyn cymorth gan Norman Industries – ac fe wnaeth dipyn o argraff arno. Mae Norman Industries yn gweithio gyda phobl sydd ag ystod eang o anableddau. Yn ogystal â chyflogi staff, mae Norman Industries hefyd yn darparu profiad gwaith sy’n rhoi sgiliau i bobl ar gyfer gwaith, hyfforddiant ac i wella eu CV.
Mae Norman Industries yn cyflenwi llawer o gynnyrch gwahanol, y rhan fwyaf ohonynt wedi eu gwneud o bren. Mae’r cwmni’n cyflenwi dodrefn i nifer o sefydliadau a chyrff yn cynnwys y Swyddfa Dramor ar gyfer defnydd mewn llysgenadaethau. Maen nhw hefyd yn cyflenwi nifer o sefydliadau addysgol trwy’r Devon Supply Zone sy’n gweithio ar draws de-orllewin Lloegr. Mae’r cwmni hefyd yn arbenigo mewn cynhyrchu dodrefn sydd wedi’u cynllunio’n arbennig i gwsmeriaid ac mae’r rhain yn amrywio o ddodrefn llofft i ddarnau sydd wedi’u cynllunio at ofynion unigol.
Mae Norman Industries yn cefnogi cynaliadwyedd ac yn defnyddio pren caled sydd wedi ei achredu gan FSC ble bynnag fo hynny’n bosibl. Caiff y pren ei brynu o fewn Sir Benfro sy’n cael ei reoli trwy Coed Cymru. Yn ddiweddar, mae aelodau staff Norman Industries wedi cwblhau prosiect i ailddefnyddio ac adnewyddu hen ddodrefn yn ystafelloedd te prynhawn Fictorianaidd plasdy Scolton Manor.
Yn ogystal, mae dosbarthiadau crefft wedi dechrau ar safle Snowdrop Lane sy’n rhoi cyfle pellach i ddysgu sgiliau.
Wrth siarad am ei ymweliad, meddai Paul Davies “Roedd yn wych gweld holl brysurdeb y ffatri. Roeddwn i’n hynod falch o weld y gwaith o ansawdd uchel sy’n digwydd yno wrth iddynt gynhyrchu ystod eang o gynnyrch pren. Roedd hefyd yn braf iawn gweld bod y ffatri’n adnewyddu hen ddodrefn ac yn adfywio’r darnau. Roedd yn rhyfeddol gweld enghreifftiau o’r gwaith adfywio.”
“Ar ôl siarad gyda’r rhai oedd yno ar brofiad gwaith, roedd yn amlwg i mi eu bod yn mwynhau eu gwaith a’r elfen gymdeithasol o weithio mewn ffatri. Mae’n amlwg bod ethig tîm da yn bodoli yn Norman Industries ac fe fyddwn i’n annog unrhyw un sydd eisiau cynnyrch pren i gysylltu â nhw i weld os ydyn nhw’n gallu eich helpu.”
DIWEDD
Brawddeg ar gyfer y llun: Paul Davies AC gyda chyflogeion Norman Industries a rhai oedd yno ar brofiad gwaith.