Mae’r Aelod Cynulliad lleol Paul Davies yn cefnogi ymgyrch ‘Fight for a Fair Start’ yr NSPCC. Yn ddiweddar, cafodd gyfarfod â chynrychiolwyr NSPCC i drafod sut i fynd i’r afael â phroblemau iechyd meddwl adeg beichiogrwydd, ac wedi’r enedigaeth, yma yng Nghymru.
Meddai Mr Davies, “Mae’n hollbwysig bod babanod yn cael y dechrau gorau posib mewn bywyd - ac un ffordd o wneud hynny yw sicrhau bod uned mam a’i baban sy’n bodloni’r safonau cenedlaethol ar gael i bob menyw a’u teuluoedd. Mae angen i ni sicrhau bod holl fyrddau iechyd Cymru yn cynnwys ymwelwyr iechyd a bydwragedd gofal iechyd meddwl amenedigol er mwyn helpu i nodi menywod a’u teuluoedd sydd wedi’u heffeithio gan iechyd meddwl mamol gwael a darparu cefnogaeth iddynt. Amcangyfrifir bod hyd at 1 o bob 5 o famau ac 1 o bob 10 o dadau yn cael problemau iechyd meddwl adeg beichiogrwydd ac wedi’r enedigaeth, felly mae’n hollbwysig bod y cymorth gorau posib ar gael i rieni ar yr adeg gywir. Rwy’n falch o gefnogi’r achos gwerth chweil hwn, ac fe wnaf bopeth posib i sicrhau bod gan wasanaeth iechyd Cymru adnoddau gwell fel bod pob plentyn yn cael dechrau teg mewn bywyd.”