Mae Aelod Cynulliad Preseli Penfro, Paul Davies, wedi cymryd cam allweddol tuag at helpu i ddileu’r stigma ynghylch dementia, trwy ddod yn Ffrind Dementia a chefnogi gweledigaeth Cymdeithas Alzheimer's Cymru o greu Cymru sy’n deall dementia. Aeth Mr Davies a’i staff ar sesiwn hyfforddi leol i ddysgu mwy am sut gallai eu swyddfa roi cymorth gwell i bobl sy’n byw â dementia yn Sir Benfro.
Meddai Mr Davies, “Dwi’n falch fod fy staff a minnau yn Ffrindiau Dementia, ac roeddem wrth ein boddau’n mynychu gweithdy i glywed pa ffordd y gallwn ddarparu’r gwasanaeth gorau posib i rai sy’n byw yn Sir Benfro gyda dementia. Gyda mwy a mwy o bobl yn byw â’r cyflwr, mae dyletswydd ar bob un ohonom i wneud popeth posib i sicrhau bod ein cymunedau mor ystyriol â phosibl o ddementia.”
Meddai Sue Phelps, Cyfarwyddwr Cymdeithas Alzheimer’s Cymru, “Dyw dementia ddim yn poeni pwy ydych chi, gall effeithio ar bob un ohonom. Mae yna un person yn datblygu’r cyflwr bob tri munud, a does dim gwella o’r cyflwr ar hyn o bryd. Mae pobl â dementia yn aml yn teimlo ac yn cael y profiad o fod yn unig, yn cael eu camddeall a’u hanwybyddu. Ac mae hynny’n golygu eu bod nhw’n llai tebygol o allu byw’n annibynnol yn eu milltir sgwâr.”
"Mae 45,000 o bobl yn byw â dementia yng Nghymru. Mae gan bob un ohonom gyfraniad i’w wneud o ran gwella bywydau pobl sy’n byw â dementia. Ond mae angen i Lywodraeth Cymru ynghyd â phob AC chwarae eu rhan yn y gwaith o greu cenedl sy’n deall dementia.”
“Mae’n wych gweld Paul Davies yn ymuno â ni yn y frwydr yn erbyn dementia, trwy ddangos ei gefnogaeth i Ffrindiau Dementia. Mae llai na hanner ohonom yn gwybod digon am ddementia. Nid mater o greu arbenigwyr yw Ffrindiau Dementia, ond helpu pobl i ddeall mymryn mwy am fyw gyda’r cyflwr, a sut mae camau bach yn gallu gwneud byd o wahaniaeth.”
Os hoffech chi fod yn un o Ffrindiau Dementia, neu os hoffech helpu i greu rhagor o gymunedau sy’n deall dementia, ewch i www.dementiafriends.org.uk i ddod o hyd i’ch sesiwn wybodaeth agosaf.