Bydd yr Aelod Cynulliad lleol Paul Davies yn tynnu sylw unwaith eto i’r angen am well amddiffyniad i gofebion rhyfel ledled Cymru. Ddydd Mercher 6 Tachwedd, bydd Mr Davies yn cynnal dadl yn galw ar Lywodraeth Cymru lunio rhestr ddiwygiedig o gofebion rhyfel yng Nghymru a gosod dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i warchod y cofebion hynny yn eu hardaloedd.
Cyn y ddadl, dywedodd Mr Davies: “Pleser o’r mwyaf yw cael cyfle i godi’r mater pwysig o amddiffyn cofebion rhyfel gyda Llywodraeth Cymru unwaith eto. Yn anffodus, rydym yn clywed am ormod o achosion o gofebion yn cael eu fandaleiddio a rhannau ohonynt yn cael eu dwyn ar gyfer sgrap, felly mae’n bryd i ni gymryd camau go iawn. Mae’n fater o anrhydeddu ein harwyr a diogelu eu straeon ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, felly amddiffyn eu cofebion yw’r lleiaf y gallwn ni ei wneud. Rwy’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ddiogelu ein cofebion – dyw’r arwyr hyn yn haeddu dim byd llai.”