Yn ddiweddar fe agorodd Paul Davies, Aelod Cynulliad Preseli Sir Benfro, gyfleuster newid newydd ar thema Dr Who yn Amgueddfa Spitfire Cymru. Torrodd Mr Davies rhuban a dywedodd ychydig eiriau gan gyhoeddi bod y cyfleusterau newydd bellach ar agor. Mae’r ystafelloedd newid sydd newydd gael eu hail wampio’n seiliedig ar y Tardis enwog hwnnw o’r rhaglen deledu Dr Who ac mae’r cyfleusterau i’w gweld yn y siop yn Amgueddfa Spitfire Cymru yn Hwlffordd.
Yn ôl Mr Davies, “Roedd yn hyfryd agor y cyfleusterau newydd yn yr Amgueddfa Spitfire, sy’n dilyn thema’r Tardis. Rydyn ni’n ffodus iawn o gael lleoliad mor ddiddorol ar stepen ein drws a hoffwn annog pawb i fanteisio ar y cyfle i fynd o amgylch yr arddangosfa. Wrth gwrs, mae mentrau bach fel hyn yn ddibynnol i raddau helaeth ar gefnogaeth gwirfoddolwyr lleol ac mae’r amgueddfa bob amser yn chwilio am fwy o gymorth, felly os yw hyn yn rhywbeth y byddai gennych chi ddiddordeb ynddo, cofiwch gysylltu â Ray Burgess drwy wefan yr Amgueddfa Spitfire yn http://welshspitfire.org/ i ddysgu mwy am ffyrdd y gallwch chi gefnogi’r atyniad lleol ardderchog hwn.”