Mae Aelod Cynulliad Preseli Sir Benfro, Paul Davies, wedi mynychu digwyddiad yn ddiweddar i ddathlu gwaith cŵn therapi ledled Cymru. Trefnwyd y digwyddiad gan yr elusen Therapy Dogs Nationwide i roi mwy o wybodaeth i Aelodau Cynulliad am y gwaith pwysig sy’n cael ei wneud gan gŵn therapi mewn ysbytai, hosbisau, ysgolion, cartrefi preswyl a charchardai ledled y wlad.
Meddai Mr Davies, “Roeddwn wrth fy modd yn mynychu’r digwyddiad cŵn therapi ac yn cyfarfod â’r cŵn a’u perchnogion. Mae’r cŵn hyn yn rhoi cymorth pwysig iawn i lawer o bobl, ac roedd yn gyfle da i glywed am rai o’r hanesion anhygoel sydd wedi deillio’n rhannol o waith y cŵn therapi. Gobeithio y bydd mwy o bobl yn gallu manteisio ar y therapi hwn yn y dyfodol ac rwy’n canmol y perchnogion a’r gwirfoddolwyr sy’n rhoi o’u hamser i gadw cwmni i’r cŵn yn ystod eu hymweliadau, gan hwyluso eu gwaith rhagorol.”