Mae Paul Davies yr Aelod Cynulliad lleol yn cefnogi Wythnos Diogelwch y Ffyrdd, sef digwyddiad diogelwch ffyrdd mwyaf y DU, dan arweiniad yr elusen diogelwch ffyrdd Brake. Thema Wythnos Diogelwch y Ffyrdd eleni (18-24 Tachwedd) yw “Camu Ymlaen dros Strydoedd Diogel drwy gamu ymlaen a dysgu sut i deithio mewn ffordd ddiogel.
Meddai Mr Davies, “Bob ugain munud, mae rhywun yn cael ei ladd neu ei anafu’n ddifrifol ar ffyrdd Prydain ac felly mae’n bwysig ein bod yn manteisio ar y cyfle i ystyried ffyrdd y gallwn hyrwyddo gwell diogelwch ar y ffyrdd. Mae gan bawb ddyletswydd i adolygu ein hymddygiad ein hunain ac edrych ar ffyrdd y gallwn wneud ein ffyrdd yn fwy diogel i bawb. Gobeithio wrth i ni ddathlu’r Wythnos Diogelwch y Ffyrdd, y bydd Llywodraeth Cymru yn myfyrio dipyn ac yn ystyried sut y gall hyrwyddo atebion arweinir gan ddylunio da i wneud ein ffyrdd yn fwy diogel. Dim ond drwy gydweithio y gallwn sbarduno newid go iawn ac felly rwy’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn manteisio ar y cyfle hwn i adolygu ei pholisïau cyfredol ac edrych ar ffyrdd o gynnig atebion mwy diogel.”