Yn ddiweddar, mynychodd yr Aelod Cynulliad lleol Paul Davies ddigwyddiad i goffáu Diwrnod Cofio’r Holocost a chlywed gan y goroeswr Holocost ysbrydoledig Mala Tribich MBE. Mae Diwrnod Cofio’r Holocost 2020 yn nodi 75 mlynedd ers rhyddhau Auschwitz-Birkenau ynghyd â 25 mlwyddiant yr Hil-laddiad ym Mosnia.
Meddai Mr Davies, “Mae mor bwysig ein bod yn edrych yn ôl ar y digwyddiadau hyn ac yn myfyrio ar eu heffaith enfawr ar fywydau bobl bedwar ban byd. Thema Diwrnod Cofio’r Holocost eleni yw “Sefyll Gyda’n Gilydd” ac mae’n hollbwysig ein bod i gyd yn manteisio ar y cyfle i sefyll gyda’n gilydd a chydag eraill yn ein cymunedau i roi diwedd ar ymraniad a lledaeniad casineb yn ein cymdeithas. Mae pawb am i Gymru fod yn wlad oddefgar sy’n rhannu parch at ein gilydd a dyna pam ein bod angen gwneud popeth o fewn ein gallu i gofio gwersi’r gorffennol a sicrhau nad ydynt yn digwydd eto yn y dyfodol.”