Mae Paul Davies, yr Aelod Cynulliad lleol, wedi croesawu’r newyddion y bydd Orkambi, cyffur a ddefnyddir i drin ffeibrosis systig, ar gael i gleifion sy’n byw yng Nghymru. Mae cytundeb wedi’i wneud rhwng Vertex a Gwasanaeth Caffael GIG Cymru gyda’r bwriad o ganiatáu i’r cleifion blaenoriaeth uchel gael y driniaeth ym mis Rhagfyr, gyda’r driniaeth ar gael i bob claf cymwys o 2020.
Dywedodd Mr Davies, “Mae hyn yn gam sylweddol a bydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i bobl sy’n byw gyda ffeibrosis systig yn Sir Benfro ac ar hyd a lled Cymru. Rydw i’n falch bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn y dylai Orkambi fod ar gael i gleifion a bod cytundeb wedi’i wneud o’r diwedd. Bydd cleifion sy’n byw gyda ffeibrosis systig yn gallu cael gafael ar y driniaeth hanfodol hon yn gynt yn hytrach na’n hwyrach a bydd hynny’n cael ei groesawu gan y teuluoedd y mae ffeibrosis systig yn effeithio arnyn nhw.”