Mae’r Aelod Cynulliad lleol Paul Davies yn cefnogi ymgyrch gwrth-fwlio genedlaethol, er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth o’r effaith ddinistriol y gall bwlio ei chael ar fywydau pobl. Cynhelir Wythnos Gwrth-fwlio 2019 rhwng 11 ac 15 Tachwedd ac mae’n cynnig y cyfle i roi sylw i broblem bwlio ac ystyried sut gallwn ni fynd at i greu amgylchedd diogel i bawb. Thema eleni yw “Ni sy’n Dechrau’r Newid” ac anogir pobl i gymryd rhan yn Niwrnod Sanau Gwahanol 2019 ddydd Mawrth 12 Tachwedd i ddathlu’r hyn sy’n ein gwneud ni i gyd yn unigryw.
Meddai Mr Davies: “Rwy’n falch iawn o gael cefnogi’r achos rhagorol hwn. Gall bwlio ddigwydd yn unrhyw le, i unrhyw un, o unrhyw oedran ac felly mae’n bwysig ein bod ni i gyd yn gweithio gyda’n gilydd i greu cymunedau diogel, goddefgar a chynhwysol. Mae gan bawb ddyletswydd foesol i roi diwedd ar fwlio a byddaf yn sicr yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddangos esiampl a chefnogi mesurau sy’n hyrwyddo agenda gwrth-fwlio yng Nghymru. Rwyf hefyd yn gobeithio y bydd pobl ledled Sir Benfro yn cefnogi’r Wythnos Gwrth-fwlio drwy gymryd rhan yn y Diwrnod Sanau Gwahanol fel ffordd llawn hwyl o ddathlu amrywiaeth ein cymdeithas a helpu i ledaenu’r neges ei bod hi’n iawn i fod yn wahanol.”