Yn ddiweddar, mynychodd Paul Davies, eich Aelod Cynulliad lleol, gyfarfod grŵp trawsbleidiol ar Gwrw a Thafarndai i ddathlu’r nifer cynyddol o fragdai yng Nghymru a’r cyfraniad mae tafarndai’n ei wneud at economïau cymunedau lleol. Croesawodd y cyfarfod wleidyddion o bob plaid i glywed gan gynrychiolwyr o’r diwydiant tafarndai am yr heriau sy’n wynebu tafarndai lleol ar hyn o bryd.
Meddai Paul Davies AC Preseli Sir Benfro, “Mae llawer o dafarndai ledled Cymru yn cynnig bwyd a diod, sy’n amlach na pheidio, yn dod o ffynonellau lleol yn yr ardal, gan roi’r cyfle i ymwelwyr gael blas go iawn ar yr hyn sydd gan Gymru i’w chynnig. Rydym ni’n lwcus iawn yma yn Sir Benfro gan ei fod yn ymgorfforiad naturiol o dwristiaeth ac amaethyddiaeth, dau ddiwydiant pwysicaf yr ardal – ac felly mae gennym ddigonedd o fwyd a diod lleol i’w harddangos.”
Ychwanegodd: “Mae tafarndai’n ganolfannau cymunedol pwysig hefyd lle gallwch gymryd rhan mewn cwisiau, cyfarfodydd clybiau llyfrau a gwylio digwyddiadau chwaraeon. Yn wir, y dyddiau hyn mae tafarndai’n gwneud mwy nag erioed – mewn rhai achosion maent yn cael eu defnyddio fel llyfrgelloedd hefyd, ac mae swyddfa bost mewn ambell un hyd yn oed. Felly, mae’n gwbl hanfodol ein bod yn dal ati i gefnogi ein tafarndai lleol a sicrhau bod y canolfannau cymunedol hollbwysig hyn yn parhau yn ein cymunedau.”