Fel rhan o raglen ddigwyddiadau i nodi cyfnod y Cofio yng Nghymru, fe gymerodd yr Aelod Cynulliad lleol Paul Davies ran yn Reid Pabi flynyddol y Senedd. Wedi’i threfnu gan y Lleng Brydeinig Frenhinol, cafodd Aelodau Cynulliad a’u staff eu hannog i reidio am gyfnodau o dri munud ar ddau feic ymarfer a ddarparwyd trwy garedigrwydd Pure Gym Caerdydd. Nod y reid yw codi ymwybyddiaeth o waith y Lleng Brydeinig a materion cymuned y lluoedd arfog mewn lleoliad unigryw. Gydol y digwyddiad, roedd staff y Lleng Brydeinig wrth law i sgwrsio am aberthau anweledig cymuned y lluoedd arfog, yng Nghymru a thu hwnt, bob dydd. Ymunodd Ant Metcalfe, Rheolwr Ardal Cymru, staff y Lleng Brydeinig o bob cwr o Gymru a myfyrwyr o’r Coleg Hyfforddiant Milwrol lleol â’r Aelodau Cynulliad.
Meddai Paul Davies, AC Preseli Penfro, “Mae bob amser yn bleser cefnogi Reid Pabi flynyddol y Lleng Brydeinig Frenhinol. Ffordd fach ond bwysig o gofio ein harwyr coll a nodi cyfnod y cofio yn gyffredinol. Mae ein Lluoedd Arfog yn darparu gwasanaeth anhygoel i’n gwlad mewn cymaint o ffyrdd, ac roedd hi’n ysbrydoledig clywed sut mae’r Lleng Brydeinig Frenhinol yn helpu ein milwyr. Mae’n braf gweld cymaint o gydweithwyr a staff yn cefnogi’r digwyddiad, ac roeddwn i’n falch o gymryd rhan a chefnogi achos gwerth chweil.”
Meddai Ant Metcalfs, Rheolwr Ardal Cymru y Lleng Brydeinig Frenhinol: “Mae’r Reid Pabi wedi dod yn ddigwyddiad poblogaidd yng nghalendr y Cynulliad, gyda natur gystadleuol gyfeillgar Aelodau’r Cynulliad yn dod i’r amlwg. Mae’n cynnig llwyfan gwych inni siarad ag ACau a’u staff am anghenion y Lluoedd Arfog a chymuned y cyn-filwyr a gwaith y Lleng Brydeinig yng Nghymru, mewn awyrgylch anffurfiol braf. Hoffwn ddiolch i bawb ddaeth draw heddiw.”