Yn ddiweddar, aeth Paul Davies, Aelod Cynulliad Preseli Sir Benfro, i gyfarfod disgyblion ysgol lleol sydd wedi creu deiseb i wahardd poteli llaeth plastig defnydd untro. Mae disgyblion o Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir yr Eglwys yng Nghymru Sant Aidan yng Nghas-wis yn galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd poteli llaeth plastig defnydd untro, o ystyried bod oddeutu 300kg o boteli llaeth plastig yn cael eu defnyddio bob dydd yng Nghymru fel rhan o’r cynllun llaeth am ddim.
Meddai Mr Davies: “Roeddwn i’n falch iawn o gyfarfod disgyblion o Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir yr Eglwys yng Nghymru Sant Aidan a chlywed mwy am eu hymdrechion i wahardd poteli llaeth defnydd untro mewn ysgolion ledled Cymru. Mae’r plant wedi cyflwyno dadl ragorol ac wedi casglu dros 300 llofnod gan bobl ledled Cymru yn barod. Mae’n wych gweld y plant yn meddwl yn greadigol am faterion fel gwastraff a chynhyrchion ailgylchadwy ynghyd â meddwl am ein defnydd o danwyddau ffosil.
Ychwanegodd: “Roedd hi’n bleser cael codi’r mater hwn gyda’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a holi sut gall Llywodraeth Cymru gefnogi’r disgyblion a’u hymgyrch. Wrth gwrs, dyw hi ddim yn rhy hwyr i ddangos eich cefnogaeth a byddwn yn annog pawb i fynd i wefan y Cynulliad a chofrestru’ch cefnogaeth i’r achos gwerth chweil hwn. Bydd y ddeiseb ar agor hyd 10 Ebrill am hanner dydd ac mae’r manylion i’w gweld yma - https://www.assembly.wales/cy/gethome/e-petitions/Pages/petitiondetail.aspx?PetitionID=1663”