Mae Paul Davies, yr Aelod Cynulliad lleol, wedi datgan pryder dros benderfyniad diweddar gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i beidio ag ymateb i Gais Rhyddid Gwybodaeth. Gofynnwyd i bob un o’r saith bwrdd iechyd yng Nghymru gyhoeddi nifer y llawdriniaethau a gafodd eu canslo ac sydd bellach wedi’u gwneud a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda oedd yr unig un a ddewisodd peidio ag ymateb i’r cais.
Meddai Mr Davies, “Rydw i’n siomedig mai Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw’r unig fwrdd iechyd yng Nghymru i beidio â chyhoeddi gwybodaeth am nifer y llawdriniaethau a ganslwyd. Mae’n rhaid i bob bwrdd iechyd yng Nghymru fod yn destun craffu ac mae’n peri cryn bryder bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi ymateb fel hyn. Bydd dewis peidio â chyhoeddi’r wybodaeth hon yn tanseilio hyder yn y bwrdd iechyd ac felly mae’n gwbl hanfodol bod y wybodaeth yn cael ei chyhoeddi cyn gynted â phosibl. Bydd pobl yn teimlo, gyda phob cyfiawnhad, bod y bwrdd iechyd yn ceisio cuddio rhywbeth ac felly, rydw i’n galw ar reolwyr y bwrdd iechyd i gyhoeddi’r wybodaeth hon fel mater o frys.”