Mae’r Aelod Cynulliad lleol Paul Davies wedi canmol sector addysg bellach y wlad yn ystod dadl gan y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd. Dywedodd Mr Davies fod y sector addysg bellach yn hanfodol o ran meithrin sgiliau gweithlu’r genedl er mwyn ateb gofynion economi Cymru at y dyfodol. Manteisiodd Mr Davies ar y cyfle hefyd i bwysleisio’r holl amrywiaeth o sgiliau a chyrsiau sy’n cael eu cynnig gan Goleg Sir Benfro, a galwodd ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i sicrhau bod mynediad at gyfleoedd dysgu yn y dyfodol.
Meddai Mr Davies, “Roeddwn i’n falch o’r cyfle i gymryd rhan yn y ddadl ar Addysg Bellach a thynnu sylw at bwysigrwydd y sector i ddysgwyr a’r economi yng Nghymru. Nid pawb sy’n gallu astudio rhwng 9 y bore a 5 yr hwyr, a dyw pawb ddim yn addas i ddilyn cwrs gradd academaidd strwythuredig – felly mae’r cyfleoedd dysgu hyblyg a gynigir gan ddarparwyr addysg bellach yn hollbwysig i rieni, pobl hŷn a rhai sy’n gweithio’n llawn amser. Mae darparwyr addysg bellach fel Coleg Sir Benfro yn ymateb i anghenion sgiliau’r ardal leol ac yn cydweithio’n agos â chyflogwyr lleol, ac rwy’n credu taw dyna’r math o gydweithio y dylem adeiladu arno, er mwyn helpu i sicrhau bod dysgwyr yn gadael byd addysg â’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y gweithle. Rwy’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru’n gwrando ar fy ngalwadau i sicrhau bod cyfleoedd addysg bellach mor hygyrch a hwylus â phosib i ddysgwyr, gan fod y cyfleoedd hynny yn rhan ganolog o uwchsgilio’r genedl, trechu tlodi a gwella ansawdd bywyd dysgwyr.”