Mae cynllun ar gyfer mamau sy’n disgwyl sy’n golygu bod angen ffonio Uned Dan Arweiniad Bydwragedd Glangwili os ydynt yn dechrau esgor y tu allan i oriau swyddfa, wedi’u feirniadu’n chwyrn gan Paul Davies, yr Aelod Cynulliad lleol. O 2 Rhagfyr ymlaen, bydd angen i fenywod beichiog sydd i fod i roi genedigaeth yn Uned Dan Arweiniad Bydwragedd Llwynhelyg ffonio ysbyty Glangwili, a fydd yn cysylltu wedyn â bydwraig sydd ar alwad.
Meddai Mr Davies: “Mae’n gwbl warthus bod yn rhaid i famau beichiog ledled Sir Benfro ‘archebu’ drwy Glangwili wrth ddechrau esgor y tu allan i oriau swyddfa. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn dweud wrthym y bydd y tîm bydwreigiaeth yn rhan integrol o’r hyb yn lleol, ond mae’n amlwg mai dim ond rhwng 9am a 5pm y mae hynny’n wir.
“Unwaith eto, rydym yn gweld gwasanaethau hollbwysig yn cael eu canoli ymhell oddi wrth deuluoedd yn Sir Benfro. Mae Llywodraeth Cymru wedi dangos eu lliwiau dro ar ôl tro ac yn dal i fynnu israddio gwasanaethau, ar draul ac yn erbyn ewyllys pobl leol.”