Yn ddiweddar, bu Paul Davies, Aelod Cynulliad Preseli Penfro yn ymweld â Pharc Tonfyrddio Sir Benfro yn ystod yr Wythnos Twristiaeth. Agorodd y Parc Tonfyrddio ger Martletwy yn 2017 gan y brodyr a’r chwiorydd Mark, Sarah a Steph Harris. Mae tonfyrddwyr yn defnyddio’r cebl uwchben, a gyda hyfforddwyr cymwys yn eu tywys, bydd ymwelwyr yn sicr o allu tonfyrddio yn eu gwers dechreuwyr. Mae tonfyrddwyr mwy profiadol yn gallu herio eu hunain gyda chyfres o rampiau a nodweddion wedi’u teilwra’n arbennig.
Ar hyn o bryd, mae tonfyrddio yn un o’r chwaraeon dŵr sy’n tyfu fwyaf ac mae byrddwyr yn sicr o gael eu ffics adrenalin am y dydd.
Mae parc dŵr awyr agored cyntaf Cymru yn un o nodweddion newydd Parc Tonfyrddio Sir Benfro, lle mae cystadleuwyr yn sblasio, llithro a neidio o gwmpas cwrs gwynt.
Ar ôl ei ymweliad, dywedodd Paul Davies AC: “Roeddwn i’n falch iawn o gael ymweld â Pharc Tonfyrddio Sir Benfro a gweld y cyfleusterau rhagorol. Yn ystod fy ymweliad roeddwn i’n gallu gweld tonfyrddwyr wrthi ac roedd hi’n amlwg eu bod yn cael amser da. Gyda’r diddordeb mewn tonfyrddio yn cynyddu, bydd Parc Tonfyrddio Sir Benfro yn sicr o barhau i ddenu nifer cynyddol o drigolion lleol ac ymwelwyr. Mae’r Parc Tonfyrddio yn cyfoethogi’r hyn sydd gan Sir Benfro i’w gynnig i ymwelwyr - dymuniadau gorau iddynt am lwyddiant parhaus.”
DIWEDD
Pennawd llun: Liz Williams (Twristiaeth Sir Benfro), Paul Davies AC, Sarah Harris, Mark Harris a Steph Harris (perchnogion Parc Tonfyrddio Sir Benfro)