Mae Paul Davies yr Aelod Cynulliad lleol wedi dweud bod yr ystadegau gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig mewn perthynas â TB Buchol yn peri gofid i sector ffermio’r Gorllewin. Dengys yr ystadegau bod y Gorllewin wedi gweld cynnydd enfawr o 33% yng nghyfanswm yr anifeiliaid a laddwyd yn y 12 mis hyd Awst 2019 o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Dengys yr ymchwil hefyd fod nifer yr achosion o TB Buchol mewn buchesau newydd yn yr ardal wedi gostwng 1% yn unig o gymharu â’r flwyddyn flaenorol, tra ar yr un pryd bod nifer y buchesau nad oeddynt wedi’u ddatgan yn rhydd o TB yn swyddogol wedi cynyddu 10%, o 331 buches i 363 buches.
Meddai Mr Davies, “Mae’r ystadegau diweddaraf yn destun pryder yn y Gorllewin gan eu bod yn dangos bod mwy a mwy o wartheg yn cael eu lladd ac fel y gwyddom, mae hyn yn gwbl anghynaliadwy i ddiwydiant gwartheg Cymru. Mae TB Buchol yn glefyd erchyll sy’n cael effaith enfawr yn economaidd ar y ffermydd yr effeithir arnynt, ond hefyd yn emosiynol, ac felly rwy’n siomedig dros ben nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud mwy i fynd i’r afael â’r clefyd hwn. Rhaid i’r ymdrech i fynd i’r afael â TB Buchol fod yn flaenoriaeth nawr i Lywodraeth Cymru, er mwyn amddiffyn cynaliadwyedd sector ffermio Cymru ar gyfer y dyfodol. Yn anffodus, os na fydd Llywodraeth Cymru yn cael trefn ar y sefyllfa nawr, bydd y canlyniadau’n drychinebus ar gyfer hyfywedd ein diwydiant amaethyddol yn y dyfodol.”