Fe fu’r Aelod Cynulliad lleol Paul Davies ar ymweliad hyfryd â llety gwely a brecwast Fields Lodge yr wythnos hon i ddathlu ail Wythnos Genedlaethol Gwely a Brecwast y DU.
Meddai Mr Davies, ‘Mae golygfeydd heb eu hail yn Sir Benfro, ac mae’n lleoliad hollol odidog ac yn ganolfan fendigedig ar gyfer gwyliau yn darganfod y cwbl sydd gan yr ardal leol i’w chynnig.
Roedd lletygarwch Jayne, perchennog Fields Lodge, yn fendigedig ac roedd yn wych blasu cymaint o gynnyrch lleol, wedi ei weini ar ffurf canapés bychain. Rwy’n gwybod bod Jayne yn falch o ddefnyddio cymaint o gynnyrch lleol ag sy’n bosibl, ac mae wedi ennill gwobr Brecwast Gorau Sir Benfro am ddwy flynedd yn olynol, sy’n anrhydedd rhyfeddol.
Roedd yn wych cael siarad gyda chymaint o gyflenwyr busnes Jayne yn y digwyddiad y bore yma, sy’n tanlinellu pwysigrwydd ein busnesau gwely a brecwast i’r economi leol. Mae’n hollol glir mai dyma yw asgwrn cefn ein diwydiant twristiaeth.’
Yn dilyn y digwyddiad bore heddiw, dywedodd Jayne, ‘Dwi wrth fy modd yn cael cydweithio gyda chymaint o fusnesau lleol a chael tynnu sylw at yr effaith mae busnesau gwely a brecwast bychan yn ei chael ar y gymuned a’r economi yn lleol. Mae Wythnos Genedlaethol Gwely a Brecwast yn ffordd arbennig o ddathlu hyn.”
DIWEDD
Os am ragor o wybodaeth am lety gwely a brecwast Fields Lodge, ffoniwch 01646 697732 neu e-bostiwch [email protected] <mailto:[email protected]>