Yn dilyn adroddiadau y bydd adran ddamweiniau ac achosion brys yn parhau wedi’r cwbl yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Llantrisant, Rhondda Cynon Taf, mae’r Aelod o’r Senedd Paul Davies wedi galw eto am gadw gwasanaethau yn Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg.
Meddai Mr Davies, “Gan ei bod hi’n fwyfwy tebygol y bydd gwasanaethau adran ddamweiniau ac achosion brys Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn cael eu cadw, mae ond yn iawn i Lywodraeth Cymru ailasesu ei sefyllfa o ran gwasanaethau ysbytai ardaloedd eraill. Pam ddylai pobl Sir Benfro dderbyn llai o wasanaethau yn erbyn eu hewyllys, pan mae gwasanaethau mewn ardaloedd eraill yn ddiogel? Parhau mae’r frwydr i gadw ein gwasanaethau lleol a byddaf yn gwneud popeth posib i gadw gwasanaethau ar lawr gwlad – yn Ysbyty Llwynhelyg.”