Mae’r Aelod o’r Senedd lleol Paul Davies wedi croesawu’r newyddion y bydd rhyddhad TAW yn cael ei estyn i fusnesau yn y sectorau twristiaeth a lletygarwch. Ym mis Gorffennaf, torrodd y Canghellor y gyfradd TAW o 20% i 5% am gyfnod o chwe mis ond mae hyn bellach wedi'i ymestyn tan fis Mawrth 2021.
Meddai Mr Davies, “Rwy’n falch iawn bod y Canghellor wedi penderfynu ymestyn y rhyddhad TAW a gynigir i fusnesau yn y sector twristiaeth a lletygarwch ac rwy’n siŵr y bydd y newyddion hynny yn cael ei groesawu gan y busnesau hynny yn Sir Benfro. Mae'r diwydiant twristiaeth a lletygarwch mor bwysig i'n heconomi leol ac o ystyried yr ansicrwydd sy'n dal i wynebu llawer o fusnesau, bydd ymestyn y rhyddhad TAW yn gwneud gwahaniaeth go iawn ac yn helpu i gefnogi'r diwydiant ar yr adeg hon. Wrth gwrs, mae'n dal i fod yn gyfnod anodd iawn i fusnesau ledled Sir Benfro ac felly rwy'n annog Llywodraethau ar bob lefel i gynnal deialog gyda'r sector am yr heriau maen nhw'n eu hwynebu ac ystyried pob llwybr i helpu i amddiffyn eu cynaliadwyedd i’r dyfodol. ”