Bydd cymhorthfa rithwir yn cael ei chynnal gan yr AS lleol Paul Davies ar gyfer etholwyr ledled Preseli Sir Benfro sydd angen help a chyngor gyda materion lleol. Bydd Mr Davies yn cynnal y gymhorthfa ddydd Gwener 9 Hydref rhwng 10am a 12pm. Y cyntaf i’r felin fydd hi, felly os ydych am drefnu apwyntiad, cysylltwch â swyddfa Paul ar 01437 766425.
Dywedodd Mr Davies, “Mae fy nghymhorthfa rithwir nesaf ar ddydd Gwener 9 Hydref ac rwy’n annog pobl sy’n byw yn etholaeth Preseli Sir Benfro i gysylltu os ydyn nhw angen help gyda mater lleol. Mae Covid-19 yn parhau i gael effaith enbyd ar ein bywydau ac rydw i yma i wrando ar eich pryderon ac i helpu os galla’i mewn unrhyw ffordd. O broblemau yn cael gafael ar wasanaethau iechyd lleol neu broblem gydag unrhyw fater datganoledig arall, gallwch gysylltu â’m swyddfa a chadw lle ac fe wna’i fy ngorau glas i’ch helpu.”