Mae Paul Davies, yr Aelod o’r Senedd dros Sir Benfro, wedi cwrdd â chynrychiolwyr Openreach yn ddiweddar i drafod eu gweithrediadau cyfredol a’u cynlluniau i wella gwasanaethau band eang ledled Sir Benfro. Roedd y cyfarfod rhithiol yn cwmpasu pob math o bynciau, gan gynnwys problemau cysylltedd, yr angen am seilwaith gwell ac ymrwymiad i fynd i’r afael â phroblemau yn rhannau mwy gwledig y Sir.
Meddai Mr Davies, “Roedd hi’n braf cyfarfod tîm Openreach i drafod eu gwaith a sut gallan nhw roi cymorth gwell i gymunedau Sir Benfro. Mae gwasanaethau band eang wedi bod yn broblem mewn rhai rhannau o’r Sir erioed, a llawer o’r trigolion yn dal yn rhwystredig gyda’r gwasanaeth is na’r safon y maen nhw’n ei dderbyn. Mae pandemig Covid-19 yn golygu bod mwy a mwy ohonom yn gweithio o gartref, felly mae’n bwysicach nag erioed i bobl gael gafael ar ddarpariaeth band eang ddigonol nid yn unig i weithio, ond hefyd i gael gafael ar nwyddau a gwasanaethau hanfodol. Mae’n amlwg bod llawer mwy i’w wneud eto er mwyn cefnogi’r cymunedau mwy gwledig, ac rwy’n gobeithio y bydd Openreach yn cadw hynny mewn cof wrth gynllunio eu camau nesaf ar hyd a lled Sir Benfro.