Bu AS Preseli Sir Benfro, Paul Davies yn ymweld ag Encilfa Coetir Gellifawr yng Nghwm Gwaun yn ddiweddar. Mae’r encilfa’n cynnwys gwesty a nifer o fythynnod yng nghanol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, tua phedair milltir o’r arfordir a’r traethau yn Nhrefdraeth. Hefyd, mae’r Encilfa yn un o brif leoliadau Sir Benfro ar gyfer priodasau, ac yn dilyn pleidlais fe’i dewiswyd fel y lleoliad priodas gorau yng Ngwobrau Priodas Cenedlaethol Cymru yn 2018 a 2019.
Meddai Mr Davies, “Roeddwn wrth fy modd yn cwrdd â Nia i glywed am sut mae cyfyngiadau Covid-19 wedi effeithio ar yr encilfa a’i gweithgarwch. Wrth reswm, mae’r pandemig wedi cael effaith fawr ar y sector lletygarwch a’r diwydiant priodasau, ac roedd yn ddefnyddiol iawn clywed am rai o’r heriau sydd wedi wynebu’r busnes a dysgu mwy am sut mae Llywodraethau ar bob lefel yn gallu cefnogi’r sector wrth symud ymlaen. Mae’r encilfa’n gyflogwr lleol pwysig yn yr ardal a byddaf yn gwneud popeth posibl yn lleol ac yn y Senedd i sicrhau bod yr awdurdodau yn Sir Benfro ac ym Mae Caerdydd yn mynd i’r afael â’i phryderon.”