Mae’r Aelod o’r Senedd lleol Paul Davies yn helpu i godi ymwybyddiaeth o’r Wythnos Diogelwch Trydanol drwy dynnu sylw at rai o’r risgiau wrth brynu cynhyrchion trydanol ar-lein. Cynhelir yr Wythnos Diogelwch Trydanol rhwng 30 Tachwedd a 6 Rhagfyr eleni yng Nghymru a dengys ymchwil gan yr elusen diogelwch defnyddwyr Electrical Safety First bod tri o bob pump yng Nghymru yn bwriadu siopa ar-lein ar gyfer y Nadolig. Mae’r Elusen yn rhybuddio siopwyr yng Nghymru am risgiau prynu nwyddau trydanol gan farchnadoedd ar-lein dros y Nadolig hwn. Awgryma’r arolwg y bydd bron i 3 o bob 5 (57%) o breswylwyr Cymru yn siopa o farchnadoedd ar-lein ar gyfer y Nadolig eleni. Fodd bynnag, mae Electrical Safety First yn bryderus bod defnyddwyr yn disodli un risg am un arall, gan fod sawl ymchwiliad gan yr Elusen wedi datgelu cynhyrchion trydanol peryglus ar werth drwy drydydd partïon ar y gwefannau hyn.
Meddai Paul Davies yr Aelod o’r Senedd lleol, “Cyn yr Wythnos Diogelwch Trydanol, mae’n bwysig ein bod i gyd yn atgoffa ein hunain nad yw marchnadoedd ar-lein yn ddarostyngedig i’r un rheoliadau â’r stryd fawr. Felly, os ydych chi’n prynu eitemau ar-lein eleni, gofalwch eich bod yn prynu gan gyflenwyr cydnabyddedig gydag enw da.”
Meddai Robert Jervis-Gibbons, Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus Electrical Safety First: “Mae’n gwbl ddealladwy bod llawer o ddefnyddwyr yng Nghymru yn bwriadu gwneud eu siopa Nadolig ar-lein er mwyn osgoi’r stryd fawr eleni. Fodd bynnag, wrth brynu nwyddau trydanol, mae’n hynod bwysig defnyddio siopau neu wefannau gwneuthurwyr a manwerthwyr adnabyddus fel y rhai a welir ar y stryd fawr, yn hytrach na phrynu gan werthwyr trydydd parti mewn marchnadoedd ar-lein. Mae ein hymchwiliadau wedi datgelu bod eitemau peryglus dros ben ar werth ar y platfformau hyn ac yn aml mae’n anodd sylwi ar gynhyrchion eilradd neu ffug os nad ydych chi wedi’ch hyfforddi i wneud hynny. Byddai’n deddfwriaeth arfaethedig - y gallech chi ei chefnogi drwy arwyddo deiseb ar wefan Electrical Safety First – yn gorfodi’r marchnadoedd hyn i gymryd cyfrifoldeb am y nwyddau a werthir ar eu gwefannau. Ond hyd y rhoddir hyn ar waith, mae’n rhaid i chi fod yn ofalus.”