Yn ddiweddar, dewiswyd Clwb Ffermwyr Ifanc Keyston i gynrychioli Sir Benfro yn oriel ar-lein y Senedd o hyrwyddwyr cymunedol. Arweiniodd y CFfI, a enwebwyd gan yr AS lleol Paul Davies, ymateb cymunedol trawiadol i’r pandemig COVID-19, a oedd yn cynnwys teithiau siopa a nôl presgripsiwn i drigolion oedrannus a thaith gerdded a gododd dros £2,700 i gleifion ysbyty yn Sir Benfro. I gydnabod eu hymdrechion yn ystod y pandemig, yn ddiweddar enillodd CFfI Keyston wobr Mike Beckett (Grŵp o dan 25 oed) yng Ngwobrau Gwirfoddol Sir Benfro.
Meddai Mr Davies, “Rwy’n falch iawn o fod wedi enwebu CFfI Keyston i gynrychioli Sir Benfro yn oriel ar-lein y Senedd o hyrwyddwyr cymunedol. Mae eu hymdrechion gydol y pandemig wedi bod yn rhagorol, ac rwy’n falch o weld bod y CFfI wedi cael ei gydnabod gan y Senedd. Mae ymdrech gymunedol gref Sir Benfro wedi bod yn hollbwysig gydol y pandemig, ac ni allaf ddiolch digon i grwpiau fel CFfI Keyston am eu holl waith, sydd wedi cael cymaint o effaith yn y gymuned leol. Gallwch chi ddarllen mwy am yr oriel a dilyn yr hyrwyddwyr cymunedol yma - https://senedd.wales/cy/visiting/whats-on/Pages/Community-Champions.aspx.”