Mae'r Aelod o'r Senedd Paul Davies yn annog pobl i wirio cyn cyfrannu y Nadolig hwn, fel mai elusennau go iawn sy'n elwa ar eu haelioni. Er bod y mwyafrif llethol o apeliadau a chasgliadau codi arian yn ddilys, mae Action Fraud, y Comisiwn Elusennau, a'r Fundraising Regulator oll wedi rhybuddio y gall troseddwyr sefydlu elusennau ffug, neu hyd yn oed ddynwared sefydliadau elusennol adnabyddus, i dwyllo pobl.
Drwy roi i elusen gofrestredig, wedi'i rheoleiddio, y Nadolig hwn, gall pobl ledled Sir Benfro gael sicrwydd y bydd eu harian yn cael ei gyfrif yn unol â chyfraith elusennau. I wybod pa elusennau sydd ar waith yn ardal Preseli Sir Benfro, ewch i gofrestr y Comisiwn Elusennau. Law yn llaw ag Action Fraud a'r rheoleiddwyr elusennol, mae Mr Davies yn annog pawb i ddilyn rhai camau syml i sicrhau #NadoligHebDwyll eleni
Dywedodd Mr Davies: “Mae pobl ledled Sir Benfro wedi dangos cymaint o ysbryd cymunedol eleni a hoffwn ddiolch i bawb am ymdrechu i gadw llygad ar gymdogion a thrigolion bregus. Hefyd, hoffwn annog pobl Preseli Penfro sy'n dewis gwneud cyfraniad y Nadolig hwn, i gefnogi elusennau cofrestredig ac i gadw llygad am sgamiau 'elusennol'. Mae'n destun pryder mawr clywed bod sgamiau o gwmpas felly da chi, byddwch yn ofalus a rhowch i elusennau cofrestredig yn unig."
Dywedodd Pauline Smith, Pennaeth Action Fraud: “Mae elusennau'n gwneud gwaith eithriadol o bwysig, gan helpu'r rhai mwyaf anghenus, yn enwedig yr adeg hon o'r flwyddyn. Yn anffodus, bydd drwgweithredwyr yn ceisio camddefnyddio haelioni ac ewyllys da pobl eraill, a gall hyn gael effaith ariannol enfawr ar elusennau a'r achosion da a gefnogir ganddynt.
“Ni ddylai pobl osgoi cyfrannu i elusennau, dim ond bod ar eu gwyliadwriaeth. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud eich ymchwil a chymryd camau syml i sicrhau eich bod yn rhoi arian i elusen ddilys. Peidiwch â gadael i'ch rhoddion gyrraedd y dwylo anghywir y Dolig hwn.”
Mae'r Comisiwn Elusennau eisoes wedi rhybuddio fod y pandemig wedi creu tir ffrwythlon i dwyllwyr. Yn gynharach eleni, dywedodd Action Fraud eu bod wedi derbyn adroddiadau am sgamiau gydag e-bost honedig gan Lywodraeth EM yn gofyn am roddion i'r GIG fel rhan o 'apêl genedlaethol mewn ymdrech yn erbyn y coronafeirws’.
Dywedodd Helen Stephenson CBE, Prif Weithredwr y Comisiwn Elusennau: “Mae'r Nadolig bob amser yn gyfnod o roi'n hael i elusennau, ac mae hynny'n rhywbeth i'w ddathlu. Ond eleni, mae elusennau dan straen ariannol aruthrol wedi ymdrechion arwrol i gefnogi rhai o bobl fwyaf bregus cymdeithas gydol y pandemig.
“Golyga hyn ei bod yn bwysicach nag erioed sicrhau, pan awn i'n pocedi, nad yw ein cyfraniadau Nadoligaidd yn mynd ar goll. Dyna pam rydyn ni'n annog pawb i roi gyda'u pen yn ogystal â'u calon eleni, a gwirio cyn cyfrannu."
Dywedodd Gerald Oppenheim, Prif Weithredwr y Fundraising Regulator: “Mae'r cyhoedd ym Mhrydain yn rhoi'n hael i elusennau gydol y flwyddyn, ond hyd yn oed yn fwy felly adeg y Nadolig. Mae codi arian yn bwysicach eleni ar ôl cyfnod anodd i gynifer, gan gynnwys elusennau y daeth eu gweithgareddau codi arian cyhoeddus i stop am gymaint o 2020. Yn anffodus, mae lleiafrif yn ceisio elwa ar eich ewyllys da yr adeg hon o'r flwyddyn ac yn dargyfeirio rhoddion o elusennau cyfreithlon.
“Er ein bod yn annog rhoddwyr i barhau i gyfannu, mae'n hanfodol eich bod yn cadw'n effro ac yn ymwybodol o unrhyw weithgaredd anarferol wrth wneud rhodd. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio pethau'n ofalus cyn cyfrannu, os oes gennych unrhyw bryderon. Mae hyn yn cynnwys gwirio i weld a yw'r elusen wedi'i chofrestru gyda'r Fundraising Regulator, sy'n golygu eu bod wedi ymrwymo i gynnal safonau codi arian da.”
Datgelodd ymchwil blaenorol gan y Comisiwn Elusennau a'r Fundraising Regulator fod llai na hanner y bobl sy'n rhoi i elusen fel arfer yn archwilio cyn cyfrannu.
Felly, mae Action Fraud, y Comisiwn Elusennau a'r Fundraising Regulator yn annog y cyhoedd i ddilyn rhai camau syml er mwyn sicrhau #NadoligHebDwyll eleni.
Cymerwch y camau canlynol i sicrhau bod eich rhoddion yn mynd i'r lle iawn:
• Gwnewch yn siŵr bod yr elusen yn un ddilys cyn rhoi unrhyw wybodaeth ariannol. Chwiliwch am rif yr elusen gofrestredig ar eu gwefan. Gallwch wirio enw a rhif cofrestru'r elusen yn https://www.gov.uk/find-charity-information
• Gallwch hefyd wirio ydy’r elusen wedi'i chofrestru gyda'r Fundraising Regulator. Mae'r holl elusennau sydd wedi cofrestru yma wedi ymrwymo i arferion codi arian da: https://www.fundraisingregulator.org.uk/directory
• Os bydd casglwr ar y stryd neu gasglwr stepen drws yn cysylltu â chi, gofynnwch am gael gweld ei fathodyn adnabod. Gallwch hefyd wirio a oes gan y casglwr drwydded i godi arian gyda'r awdurdod lleol, neu a oes ganddo ganiatâd perchennog y safle preifat.
• Peidiwch â chlicio ar ddolenni nac atodiadau mewn negeseuon e-bost amheus, a pheidiwch byth ag ymateb i negeseuon digymell a galwadau ffôn sy'n gofyn am eich manylion personol neu ariannol – hyd yn oed yn enw elusen.
• I gyfrannu ar-lein, teipiwch gyfeiriad gwefan yr elusen eich hun yn hytrach na chlicio ar ddolen. Os oes gennych unrhyw amheuaeth, cysylltwch â'r elusen yn uniongyrchol.
• Byddwch yn ofalus wrth gyfrannu i dudalen codi arian ar-lein. Bydd tudalennau codi arian ffug yn aml yn cael eu hysgrifennu'n wael neu'n cynnwys gwallau sillafu. Wrth gyfrannu at dudalen codi arian ar-lein, cofiwch wneud hynny dim ond i dudalennau a grëwyd gan rywun rydych chi'n ei adnabod ac yn ymddiried ynddo.
Os ydych chi'n credu bod apêl neu gasgliad codi arian yn ffug, ar ôl archwilio, rhowch wybod i Action Fraud ar-lein yn actionfraud.police.uk neu ffoniwch 0300 123 2040.