Mae AS Preseli Penfro Paul Davies yn cefnogi galwadau gan elusennau canser am gynllun adfer ar gyfer gwasanaethau canser, yn dilyn pryderon y gallai dros 3,000 o bobl golli mas ar driniaethau a gwasanaethau hanfodol. Mae Macmillan wedi amcangyfrif bod tua 3,500 o bosib wedi methu diagnosis o ganser rhwng misoedd Mawrth a Tachwedd 2020 - gan rybuddio y dylai pobl sydd â chyflwr iechyd newydd neu barhaus gysylltu â'u meddyg teulu.
Dywedodd Mr Davies, "Mae pandemig Covid-19 yn cael effaith enfawr ar ein gwasanaeth iechyd ac rydym yn poeni taw ychydig o wybodaeth sydd gan Lywodraeth Cymru am reoli gwasanaethau canser ôl-Covid. Yn anffodus, bydd yna bobl yn eu cartrefi y funud yma gyda symptomau. Os oes gennych chi unrhyw bryderon iechyd, mae'n hollbwysig eich bod yn cysylltu â'ch meddyg teulu.”
Ychwanegodd, "Wrth symud ymlaen, mae angen strategaeth ganser i fynd i'r afael â'r ôl-groniad o achosion o ganser ac mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru wneud mwy i estyn allan at y cyhoedd a rhoi gwybod i bobl bod y GIG ar agor ac y dylech gysylltu â'ch meddyg teulu i wirio symptomau.”