Mae gwleidyddion o Sir Benfro, Paul Davies a Stephen Crabb, wedi croesawu’r newyddion y bydd Swyddfa’r Post Wdig yn cadw ei chyfleuster ATM. Ar ôl i’r ddau wleidydd gyflwyno sylwadau i Swyddfa’r Post, cadarnhawyd y bydd Swyddfa’r Post Wdig yn cael ei chynnwys yn y broses o gyflwyno peiriannau ATM ledled rhwydwaith Swyddfa’r Post.
Meddai Mr Davies “Rwy’n croesawu’r newyddion hwn yn fawr. Mae’n dda bod Swyddfa’r Post wedi gwrando ar sylwadau’r gymuned leol ac wedi penderfynu cadw’r peiriant ATM yn Swyddfa’r Post Wdig. Mae’r cyfleuster yn bwysig iawn i bobl leol a busnesau lleol ac mae’n dda bod Swyddfa’r Post wedi cydnabod hynny ac wedi ymrwymo i gadw’r peiriant.”
Yn dilyn penderfyniad Swyddfa’r Post i fuddsoddi ym mheiriant ATM Wdig yn hytrach na chael gwared ag ef, dywedodd Stephen Crabb AS, a fu’n ymgyrchu i gadw’r peiriant ATM:
“Mae’n newyddion gwych bod Swyddfa’r Post wedi gwrthdroi ei phenderfyniad ei hun ac y bydd yn cadw peiriant ATM Wdig.
“Mae’r gallu i gael gafael ar arian parod yn parhau i fod yn hynod bwysig i lawer o bobl ac mae wedi bod yn fraint gweithio gyda John o Swyddfa’r Bost Wdig, Paul Davies AC a’r gymuned ehangach i nodi pwysigrwydd y peiriant ATM yn yr ardal. Mae’n dangos effaith cydweithio.”