Mae’r Aelod o’r Senedd lleol, Paul Davies wedi croesawu datganiad gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â’r bwriad i ganiatáu i grwpiau blwyddyn eraill ddychwelyd i’r ysgol. Fe gododd Mr Davies y mater penodol hwn ddoe (2 Mawrth 2021) gan ofyn am ddatganiad cyn gynted â phosibl er mwyn rhoi eglurder i rieni am gynlluniau Llywodraeth Cymru a’r hyn y maen nhw’n ei olygu i deuluoedd.
Meddai Mr Davies, “Mae’n dda gweld bod Llywodraeth Cymru wedi ailystyried ei dull gweithredu, wedi gwrando ar geisiadau gen i a’m cydweithwyr ac wedi cyhoeddi datganiad am ei chynlluniau i ailagor ysgolion. Wrth i’r rhaglen frechu barhau i wneud cynnydd ledled Cymru, mae’n hanfodol bwysig bod plant o bob oed yn gallu dychwelyd i’r ystafell ddosbarth cyn gynted â phosibl. Mae’n hawdd deall pam mae rhieni yn teimlo’n rhwystredig oherwydd y diffyg brys yn caniatáu i flynyddoedd ysgol eraill ddychwelyd, ac mae’n hollbwysig darparu eglurder i rieni am y sefyllfa. Mae pandemig Covid-19 yn parhau i gael effaith enfawr ar blant a phobl ifanc ac mae’n hanfodol bod disgyblion o bob oed yn gallu dychwelyd i’r ysgol yn ddiogel cyn gynted ag y bo modd.”