Mae'r Aelod lleol o'r Senedd, Paul Davies, wedi galw am weithredu i fynd i'r afael â’r niferoedd sy'n aros am driniaethau'r GIG. Yn ystod dadl y Ceidwadwyr Cymreig ddoe (10 Mawrth), soniodd Mr Davies am yr angen i fynd i'r afael â'r nifer cynyddol o bobl sy'n aros am driniaethau arferol y gwasanaeth iechyd yn ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda a galwodd ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynllun adfer i fynd i’r afael â’r oedi wrth i ni symud allan o'r pandemig Covid.
Dywedodd Mr Davies, "Mae miloedd o bobl yn aros mwy na 36 wythnos am driniaethau arferol y GIG ac mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn dechrau mynd i'r afael â'r rhestrau aros sy’n tyfu ac yn rhoi atebion i bobl sy'n aros am driniaeth. Mae llawer o bobl Sir Benfro yn bryderus ac yn rhwystredig, ac mae rhai yn aros am driniaeth mewn anghysur a phoen difrifol. Rhaid i Lywodraeth Cymru gyhoeddi cynllun adfer ar gyfer y GIG yn sgil pandemig Covid ac ystyried sut i sicrhau triniaeth yn gyflym i'r rhai sy’n aros am driniaeth. Rwyf wedi galw ar y Gweinidog i ystyried y gallu ychwanegol a ddatblygwyd ar gyfer y pandemig, fel yr ysbytai maes a sefydlwyd, i weld pa fath o rôl y gallent ei chwarae wrth ddarparu gwasanaethau iechyd yn y tymor byr er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r rhestrau aros sy’n tyfu ledled y wlad.”