Mae Aelod o’r Senedd Preseli Sir Benfro, Paul Davies, wedi herio’r Prif Weinidog i gadarnhau pa dystiolaeth wyddonol sydd wedi’i defnyddio gan Lywodraeth Cymru i atal busnesau nad ydyn nhw’n hanfodol rhag ail-agor. Yn ystod Cwestiynau i’r Prif Weinidog dywedodd Mr Davies wrth y Prif Weinidog fod busnesau yn Sir Benfro yn teimlo’n rhwystredig am orfod aros cyn ail-agor, a gofynnodd a fyddai Llywodraeth Cymru yn digolledu’r costau a ysgwyddwyd gan fusnesau a oedd wedi paratoi i ail-agor yr wythnos hon.
Meddai Mr Davies: “Roedd busnesau ledled Sir Benfro yn aros am ganiatâd gan Lywodraeth Cymru i ail-agor yr wythnos diwethaf, ond fe gawsant eu siomi. Hefyd, cyhoeddwyd y byddai modd prynu eitemau nad ydyn nhw’n hanfodol mewn archfarchnad am gyfnod, ond nid mewn busnesau lleol ar y stryd fawr. Does dim syndod bod busnesau yn teimlo’n rhwystredig, a dyna pam yr heriais y Prif Weinidog i gadarnhau pa dystiolaeth wyddonol sydd wedi’i defnyddio i gyfiawnhau’r oedi cyn ail-agor busnesau manwerthu sy’n gwerthu eitemau nad ydyn nhw’n hanfodol. Mae’r sefyllfa bresennol wedi achosi rhagor o bryder i fusnesau a’u staff, ac mae’r ffaith eu bod ar gau o hyd yn fygythiad go iawn i gynaliadwyedd rhai busnesau ledled y sir.”