Yn ddiweddar, galwodd Paul Davies heibio No 5 Quay Street, sef siop anrhegion yn Hwlffordd i glywed mwy am effaith Covid-19 ar y busnes. Mae’r siop yn cael ei rhedeg gan Mark a Sally Evans ac mae’r busnes yn un o lawer ledled Sir Benfro sydd wedi’u heffeithio gan y pandemig. Clywodd Mr Davies sut mae’r pandemig wedi effeithio ar y busnes a sut mae angen cefnogaeth y gymuned leol i’w drysau aros yn agored.
Meddai Mr Davies, “Mae busnesau bach fel No 5 Quay Street yn rhan bwysig o’n cymunedau lleol ac mae’n hanfodol ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i’w cefnogi ar ôl y pandemig. Mae wedi bod yn amser anodd iawn i fusnesau lleol a dim ond drwy siopa’n lleol a’u cefnogi y gallwn helpu i sicrhau eu bod yn goroesi. Felly, rwy’n erfyn ar bobl ledled Sir Benfro i feddwl cyn siopa - allwch chi brynu’r eitem hon yn lleol? Os gallwch chi, yna da chi prynwch yn lleol, gan helpu busnesau Sir Benfro a diogelu swyddi lleol.”