Mae Paul Davies, Aelod o'r Senedd dros Breseli Penfro wedi pleidleisio o blaid cynnal adolygiad brys o reoliadau NVZ Llywodraeth Cymru, yn dilyn dadl gan y Ceidwadwyr Cymreig ar y pwnc yn gynharach yr wythnos hon. O ganlyniad i'r ddadl, bydd un o bwyllgorau'r Senedd yn adolygu Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 ar frys ac yn cyflwyno ei argymhellion i'r Senedd.
Dywedodd Mr Davies, "Dyma'r cam cyntaf tuag at ddileu'r rheoliadau anghymesur hyn ac rwy'n falch y bydd un o Bwyllgorau'r Senedd yn adolygu'r rheoliadau hyn ar fyrder. Bydd y rheoliadau a gyflwynwyd ym mis Ebrill yn cael effaith ddinistriol ar ffermydd a bywoliaethau ledled Sir Benfro ac rwyf wedi pwysleisio bod angen dull llawer mwy penodol o ymdrin â llygredd dŵr arnom. Felly, mae'n hanfodol bod adolygiad yn cael ei gynnal ar fyrder a bod y rheoliadau hyn yn cael eu rhoi o’r neilltu cyn colli swyddi a busnesau gwerthfawr.”