Mae Aelod o’r Senedd, Paul Davies, wedi mynegi barn yn ymgynghoriad Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, “Adeiladu Dyfodol Iachach yn dilyn Covid-19.” Mewn ymateb i gynigion y Bwrdd Iechyd, pwysleisiodd Mr Davies ei fod yn gwrthwynebu unrhyw fwriad i ganoli neu israddio gwasanaethau ysbyty Llwynhelyg.
Dywedodd Mr Davies, “Mae’n ymgynghoriad hollbwysig, felly hoffwn annog pawb ledled Sir Benfro i bori drwy gynigion y Bwrdd Iechyd a dweud eu dweud. Yn fy sylwadau, rwyf wedi ei gwneud yn glir na ddylai pobl Sir Benfro orfod teithio ymhellach i gael gwasanaethau iechyd hanfodol. Hoffwn weld Hywel Dda yn dechrau blaenoriaethu Sir Benfro trwy fuddsoddi mewn gwasanaethau yn ysbyty Llwynhelyg fel y gall gefnogi pobl sy'n byw ac yn gweithio ar hyd a lled y sir.
“Mae amser o hyd i gyfrannu at yr ymgynghoriad a dweud eich dweud ar gynlluniau’r Bwrdd Iechyd. Y dyddiad cau yw dydd Llun 21 Mehefin, ac mae rhagor o wybodaeth ar gael yn -https://www.dweudeichdweud.biphdd.cymru.nhs.uk/adeiladu-dyfodol-iachach…