Mae’r Aelod o’r Senedd lleol, Paul Davies, yn cefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth Sgrinio Serfigol rhwng 14 a 20 Mehefin, dan arweiniad Jo’s Cervical Cancer Trust. Nod yr ymgyrch yw codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd sgrinio serfigol. Sgrinio serfigol (prawf ceg y groth) yw’r ffordd orau o amddiffyn yn erbyn canser ceg y groth, ond mae dros chwarter y rhai sy’n cael gwahoddiad yn gwrthod cael y prawf. Yn anffodus, mae effaith COVID-19 ar y rhaglen, ac amharodrwydd rhai pobl i ddefnyddio gwasanaethau gofal sylfaenol dros y flwyddyn ddiwethaf wedi creu rhagor o rwystrau.
Meddai Mr Davies: “Mae’n dda gennyf gefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth Sgrinio Serfigol sy’n helpu i ledaenu’r neges am bwysigrwydd mynychu sgrinio serfigol. Rwy’n sylweddoli bod profion sgrinio serfigol ac aros am y canlyniadau yn gallu bod yn anodd, a’i bod yn fwy anodd byth os nad oes gan bobl ddigon o wybodaeth am y profion nac am y cymorth sydd ar gael. Oherwydd hynny, mae’n bwysig bod pob un ohonom yn mynd ati i ddysgu mwy am bwysigrwydd sgrinio serfigol ac am y gwasanaethau lleol sydd ar gael. Mae rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch ar gael yma -http://www.jostrust.org.uk/get-involved/campaign/cervical-screening-awareness-week.”