Mae ymgyrch i atal llygredd plastig a helpu pobl i fyw gyda llai o wastraff wedi cael cefnogaeth yr Aelod o'r Senedd Paul Davies. Thema Diwrnod Ail-lenwi’r Byd eleni yw ‘getting reusables back on the menu’ yn sgil y pandemig. Bu cynnydd mewn plastig untro dros y deunaw mis diwethaf, felly nod yr ymgyrch yw ysgogi unigolion, gan ddangos y galw sydd am ailddefnyddio a hefyd rhannu canllawiau â busnesau fel eu bod yn gwybod sut i dderbyn deunyddiau amldro yn ddiogel wrth ailagor wedi’r pandemig.
Meddai Paul Davies, “Disgwylir i gynhyrchiant plastig ddyblu eto dros yr 20 mlynedd nesaf a chynyddu bron i bedair gwaith erbyn 2050 – felly nawr yw’r amser i weithredu. Rhaid i ni gyd gymryd camau i leihau ein defnydd o blastig untro ac rwy'n awyddus i weithio gyda rhanddeiliaid lleol a chenedlaethol i sicrhau taw rhywbeth o’r gorffennol yw pecynnau untro. Trwy ddewis ailddefnyddio, gallwch chi a fi helpu i anfon neges i weddill y byd bod yr atebion i lygredd plastig ac argyfwng yr hinsawdd yno - a gyda'n gilydd gallwn gadw ein hamgylchedd, cefnforoedd, dinasoedd a chymunedau yn ddi-blastig at y dyfodol."