Mae ymgyrch i hybu ymwybyddiaeth o Glefyd Motor Niwron (MND) yn cael ei chefnogi gan yr Aelod o’r Senedd lleol, Paul Davies. Bydd Mr Davies yn siarad mewn digwyddiad trawsbleidiol ddydd Mawrth 22 Mehefin, gan dynnu sylw at yr angen i wneud cartrefi mor ddiogel ac mor hygyrch ag sy’n bosibl i bobl sy’n byw gyda MND yng Nghymru.
Dywedodd Mr Davies, “Rwy’n falch iawn o gefnogi #GlobalMNDAwarenessDay er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth o MND a’i effaith ar bobl a’u teuluoedd. Mae’n glefyd dinistriol, nad oes gwella ohono, ac mae’n hanfodol bod Llywodraethau ar bob lefel yn ymrwymo i ddeall y clefyd ymhellach drwy gomisiynu mwy o waith ymchwil a sicrhau bod pobl ag MND yn gallu byw mor ddiogel ac mor annibynnol ag sy’n bosibl. Byddaf yn ymuno ag Aelodau’r Senedd o bob cwr o’r sbectrwm gwleidyddol yr wythnos hon i edrych ar ffyrdd pellach i wneud cartrefi’n fwy diogel a hygyrch, er mwyn cynnal eu hannibyniaeth, eu hurddas a’u hansawdd bywyd.”
You can find more about #GlobalMNDAwarenessDay here - https://www.mndassociation.org/about-us/who-we-are/mnd-awareness-day/?gclid=CjwKCAjw8cCGBhB6EiwAgORey4Ibl_3JzR2YbKze2J7nXONVN1xJCixAraUO4DV7JW8HWCFhugSSwhoCblgQAvD_BwE