Yn ddiweddar, bu Paul Davies a Samuel Kurtz, Aelodau o’r Senedd dros Sir Benfro, yn cyfarfod â chynrychiolwyr lleol yr NFU i glywed mwy am rai o'r heriau sy'n wynebu'r sector amaethyddol. Clywodd Mr Davies a Mr Kurtz fwy am bryderon ffermwyr lleol ynghylch rheoliadau Parthau Perygl Nitradau (PPN) Llywodraeth Cymru, goblygiadau cytundeb masnach Llywodraeth y DU gydag Awstralia a'u hofnau ynghylch rheoliadau pellach ar gynaliadwyedd y sector.
Dywedodd Mr Davies, "Rwy'n ddiolchgar i NFU Cymru am drefnu'r ymweliad a rhoi cyfle i Sam a fi wrando ar y pryderon sydd ganddynt am sawl mater sy'n wynebu'r sector ffermio lleol. Byddwn yn sicr yn dwyn y pryderon hynny gerbron y Senedd ac yn herio Llywodraeth Cymru ynghylch effaith ei rheoliadau PPN ar ffermwyr lleol. Mae rhai pryderon dealladwy hefyd ynghylch cytundeb masnach Llywodraeth y DU gydag Awstralia a'r hyn y gallai hynny ei olygu i ffermwyr Sir Benfro, a byddaf yn sicr yn codi'r pryderon hynny gyda'n cydweithwyr yn San Steffan. Mae gennym sector ffermio i ymfalchïo ynddo yn Sir Benfro a byddaf yn gwneud yr hyn a allaf i gefnogi ffermwyr lleol a helpu i ddiogelu cynaliadwyedd y sector ar gyfer y dyfodol."
Dywedodd Mr Kurtz, "Mae'r heriau sy'n wynebu ffermwyr lleol yn real iawn, o TB buchol i PPNau. Mae clywed sut mae'r materion hyn yn effeithio ar ein ffermwyr yn dangos bod gennym lywodraeth yng Nghaerdydd sy’n cymryd dim sylw o bryderon y gymuned wledig."
"Mae ein ffermwyr wedi ein cefnogi drwy gydol y pandemig, ac wedi tyfu bwyd o safon i'n bwydo. Yn awr, mae’n hanfodol bod ganddynt y gefnogaeth angenrheidiol i barhau i fod yn geidwaid ar gefn gwlad wrth iddyn nhw fwydo'r genedl. Edrychaf ymlaen at weithio gydag NFU Cymru wrth symud ymlaen ac rwy'n ddiolchgar i Roger Lewis am ei groeso caredig a hynny dan amodau cadw pellter cymdeithasol."
PIC CAP (L-R) Clare Morgan, Paul Davies MS, Chair of NFU Pembrokeshire Roger Lewis, Samuel Kurtz MS, Vice-Chair of NFU Pembrokeshire Simon Davies.