Mae Paul Davies, yr Aelod o'r Senedd lleol, wedi ymweld â fferyllfa Trefdraeth i drafod materion fferylliaeth a dysgu mwy am waith fferyllwyr yn ystod y pandemig. Cafodd Mr Davies gyfarfod gyda Mr Richard Evans i glywed mwy am y rhaglen frechu, e-bresgripsiwn, mynediad at gofnodion cleifion a'r ymgyrch o blaid fferyllfeydd mwy diogel.
Dywedodd Mr Davies, "Roedd yn bleser ymweld â fferyllfa Trefdraeth i gael trafodaeth agored am nifer o faterion fferylliaeth. Mae fferyllfeydd ledled y wlad wedi gwneud cyfraniad enfawr gydol y pandemig ac mae'n hanfodol ein bod yn dysgu gwersi at y dyfodol ac yn adeiladu arferion da. Mae fferyllfa Trefdraeth yn brechu pobl rhag Covid ac yn chwarae rhan hanfodol wrth amddiffyn pobl leol rhag Covid-19. Buom yn trafod y rhaglen frechu ynghyd â nifer o faterion pwysig sy'n wynebu'r sector ac rwy'n falch o gefnogi'r ymgyrch i wneud ein fferyllfeydd mor ddiogel â phosibl i staff a chleifion fel ei gilydd. Roedd yn ymweliad hynod ddefnyddiol a byddaf yn sicr yn mynd â'r wybodaeth a gefais yn ôl i'r Senedd i'w chodi pan gaf i'r cyfle nesaf."
Meddai Mr Evans, "Roedd hi'n bleser cwrdd â Paul yn fferyllfa Trefdraeth i drafod ymateb y fferyllfa i'r pandemig. Wrth inni edrych tuag at adferiad mae'n bwysig ein bod yn dysgu o'r pandemig ac yn datblygu ymhellach y gwasanaethau y dylai cleifion ddisgwyl eu cael gan eu fferyllfa leol. Bydd atebion digidol i gysylltu gwasanaethau a'n cysylltu â chleifion yn parhau i fod yn bwysig, yn ogystal â darparu mwy o ofal clinigol mewn partneriaeth â'n cydweithwyr, y meddygon teulu. Mae sut y gallwn ni wella gofal cleifion yn ddiogel ac yn effeithiol bellach yn gwestiwn allweddol a dyna pam mae'n bwysig siarad â Paul ac Aelodau eraill o'r Senedd am y newidiadau sydd eu hangen.”