Yn ddiweddar, ymwelodd yr Aelod o'r Senedd Paul Davies â fferm laeth deuluol Mount Milk yn Solfach. Cyfarfu Mr Davies â Rob a Lindsey Richards i glywed mwy am eu cynhyrchion a gweld eu peiriant gwerthu llaeth enwog yn Bay View Stores. Clywodd Mr Davies sut mae'r llaeth yn cael ei gynhyrchu mewn ffordd mor ecogyfeillgar â phosibl a'i werthu mewn poteli gwydr y gellir eu hail-lenwi er mwyn lleihau gwastraff plastig.
Dywedodd Mr Davies: "Mae'r gwaith yn Mount Milk yn drawiadol iawn – yn ogystal â chynhyrchu llaeth o safon uchel, mae'r teulu Richards yn cefnogi'r agenda werdd leol hefyd drwy werthu eu cynhyrchion mewn ffordd amgylcheddol sensitif. Mae'n wych clywed bod y gymuned leol wedi cefnogi'r fenter hon, ac rwy'n gobeithio y bydd pobl ledled Sir Benfro yn dangos eu cefnogaeth hefyd drwy alw yn Bay View Stores yn Solfach a phrynu potel o laeth pan fydd modd iddyn nhw wneud hynny. Pleser o'r mwyaf oedd ymweld â'r fferm a gweld eu gwaith, ac rwy'n gobeithio y bydd Mount Milk yn parhau i fynd o nerth i nerth yn y dyfodol.”