Yn ddiweddar, fe wnaeth Enterprise, cwmni llogi cerbydau a gwasanaeth symudedd groesawu'r Aelod o'r Senedd Paul Davies i'w cangen yn Aberdaugleddau i drafod strategaeth drafnidiaeth Llywodraeth Cymru a chlywed mwy am eu gwaith yma'n Sir Benfro. Dysgodd Mr Davies am Glwb Ceir Enterprise lle gall cwsmeriaid archebu cerbyd llog mewn lleoliad o'u dewis a defnyddio eu ffôn symudol neu gerdyn aelodaeth i ddatgloi'r cerbyd. Yna dychwelir y cerbyd i'r lleoliad casglu gwreiddiol, a gallwch ddefnyddio ap neu gerdyn mynediad y cwmni i gloi'r cerbyd am y tro olaf.
Dywedodd Mr Davies, "Mae rhai o'r datblygiadau technolegol diweddar ym maes trafnidiaeth wedi bod yn drawsnewidiol ac mae'n wych gweld Enterprise yn hyrwyddo'r technolegau newydd hyn yn Sir Benfro. Roeddwn i'n hynod bles o glywed am rywfaint o'r gwaith mae Enterprise wedi'i wneud i ddatblygu atebion trafnidiaeth sy'n cefnogi ymdrechion i wella ansawdd aer, lleihau tagfeydd ac annog y defnydd o gerbydau trydan. Mae Clwb Ceir Enterprise yn enghraifft wych o rai o ddatblygiadau cadarnhaol y cwmni. Mae'r cynllun yn caniatáu i bobl logi cerbydau mewn lleoliadau sy'n gyfleus iddyn nhw a does dim angen galw heibio cangen i gasglu'r allweddi na dychwelyd y cerbyd. Byddai hyn yn fuddiol iawn mewn ardaloedd gwledig lle mae trafnidiaeth gyhoeddus yn brin ar y naw, ac rwy'n gobeithio y bydd cymunedau ledled Sir Benfro yn manteisio ar y cyfle i ddysgu mwy am y cynllun a sut allai gefnogi eu hardal leol. Byddai tîm Enterprise yn fwy na pharod i drafod manylion y cynllun ymhellach a gallwch ddarllen mwy amdano ar eu gwefan yn - https://www.enterprisecarclub.co.uk/gb/en/about/how-car-club-works.html”