Yn ddiweddar, fe wnaeth yr Aelod o'r Senedd Paul Davies gwrdd â chymdeithas Y Cerddwyr Cymru am daith a sgwrs i drafod eu prosiect newydd Llwybrau i Lesiant. Eu nod yw cyflwyno'r adnoddau a'r hyfforddiant sydd eu hangen ar gymunedau o Fôn i Fynwy i nodi a chynllunio llwybrau newydd, ac uwchraddio'r rhai presennol, oll gyda chymorth swyddog prosiect rhanbarthol Llwybrau i Lesiant. Rydym yn deall y bydd 18 o gymunedau ledled Cymru yn cael eu dewis i'w datblygu, gan gynnwys hyfforddiant am ddim i wirfoddolwyr, ac mae Mr Davies yn awyddus i weld ceisiadau'n cael eu cyflwyno ar gyfer prosiectau yn Sir Benfro.
Meddai Mr Davies, "Roedd hi'n bleser cwrdd â chymdeithas Y Cerddwyr Cymru i drafod eu prosiect newydd, wrth gerdded o amgylch Solfach. Rydym mor ffodus bod gennym gymaint o dirwedd naturiol hardd ac mae crwydro ein cynefin mor bwysig i iechyd corfforol a meddyliol pawb. Mae prosiect Llwybrau i Lesiant yn gyffrous iawn a byddai'n wych gweld ceisiadau'n cael eu cyflwyno o Sir Benfro. Os bydd yn llwyddiannus, bydd Y Cerddwyr yn darparu hyfforddiant am ddim i wirfoddolwyr, ynghyd â llu o weithgareddau seiliedig ar natur ac yn darparu offer ac adnoddau i helpu i gynnal tirweddau lleol. Anfonwch gais erbyn 15 Awst. Mae rhagor o fanylion am y cynllun ar wefan y Cerddwyr yn https://www.ramblers.org.uk/pathstowellbeing.”