Yn ddiweddar, ymwelodd Paul Davies AS â Stad Southwood a Wood Farm ger Niwgwl, dau safle sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru. Ar Stad Southwood, sy’n 404 o hectarau, cafodd Mr Davies gyfle i weld y dirwedd amrywiol o gymoedd, caeau, a chlogwyni, a darganfod yr arferion rheoli tir sy’n cael eu defnyddio.
Wrth sôn am ei ymweliad dywedodd Mr Davies, "Roedd hi’n bleser gen i gyfarfod â swyddogion yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru a gweld Stad Southwood a Wood Farm. Mae mwy nag 1.8 miliwn o ymwelwyr y flwyddyn yn ymweld â safleoedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru. Mae hyn yn dangos pa mor eang yw eu hapêl, ac mae’n rhoi cyfle i bobl gysylltu â natur, harddwch a hanes."
"Roedd gweld y gwaith rheoli tir a ddefnyddir ar Stad Southwood yn ddiddorol dros ben, ac effaith hynny ar natur. Roedd hefyd yn dda clywed am y cynlluniau sydd gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru ar gyfer y safle."