Mae Paul Davies, Aelod o'r Senedd dros Breseli Sir Benfro, wedi galw ar Weinidog Iechyd Cymru, y Farwnes Morgan o Drelái, i ymyrryd ac atal cynigion i leihau gwasanaeth ambiwlans brys Sir Benfro. Gwrthododd y Farwnes Morgan, sy'n cynrychioli rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru yn y Senedd, ymateb i gwestiwn Mr Davies cyn cynnig briffio Aelodau'r Senedd ar yr heriau presennol sy'n wynebu'r gwasanaeth ambiwlans.
Dywedodd Mr Davies, "Rwy'n siomedig iawn bod y Gweinidog wedi diystyru fy ngalwad am ymyrraeth i ddiogelu ein gwasanaethau ambiwlans. Mae staff rheng flaen y GIG wedi pwysleisio y byddai cynigion i leihau gwasanaeth ambiwlans Sir Benfro yn cael effaith drychinebus ar y gweithlu ac ar bobl leol y sir, felly roeddwn i'n gobeithio y byddai'r Gweinidog yn mynd i'r afael â'u pryderon dilys o leiaf. Yn anffodus, fel rydym wedi gweld mewn cynifer o achosion, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i anwybyddu barn pobl Sir Benfro ac yn troi at ymosodiadau gwleidyddol rhad yn hytrach na chanolbwyntio ei hamser a'i hymdrech i amddiffyn a chefnogi gwasanaethau iechyd lleol. Heb os nac oni bai – byddaf yn parhau i frwydro dros wasanaethau lleol Sir Benfro ac yn codi'r mater bob cyfle posib. Rydym ni bobl Sir Benfro yn haeddu cael rhywun i wrando arnom a thrin ein pryderon â pharch.”