Mae’r Aelod o’r Senedd lleol Paul Davies wedi ymuno ag ymgyrchwyr o bob rhan o Sir Benfro y tu allan i ysbyty Llwynhelyg i brotestio yn erbyn cynigion i israddio gwasanaethau yn yr ysbyty.
Meddai Mr Davies, “Dro ar ôl tro mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi dechrau ar broses i newid gwasanaethau a bob tro mae un o’n gwasanaethau yn ysbyty Llwynhelyg yn cael ei dynnu oddi arnom ni. Mae’n rhaid atal hyn nawr. Rydw i yma gydag ymgyrchwyr i annog y Bwrdd Iechyd i feddwl ddwywaith a sicrhau nad oes rhagor o wasanaethau yn cael eu tynnu oddi ar ein hysbyty lleol.”
Ychwanegodd: “Mae’r awr euraid yn hanfodol i gyrraedd gwasanaethau achub bywyd ac felly mae’n hanfodol bod gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yn aros yn Ysbyty Llwynhelyg. Pan gaewyd yr Uned Gofal Arbennig i Fabanod yn 2014, rhybuddiais y byddai hyn yn cael effaith ganlyniadol ar gynaliadwyedd gwasanaethau eraill ond ni dderbyniodd Llywodraeth Cymru hynny. Ond dyma ni, yn brwydro dros ein gwasanaethau damweiniau ac achosion brys ar ôl gweld ein gwasanaethau paediatreg yn cael eu hisraddio ac nid yw hyn yn dderbyniol o gwbl. Rydw i wedi derbyn toreth o ohebiaeth gan bobl ledled y sir ynghylch cynigion y Bwrdd Iechyd ac rydw i am ddweud yn blwmp ac yn blaen y byddaf yn gwneud popeth o fewn fy ngallu i ddiogelu gwasanaethau yn ysbyty Llwynhelyg.”